Today, Great British Energy – Nuclear (GBE-N) has announced the new nuclear plant next to the Wylfa site will be called Gwyndod Power Station.
After hundreds of suggestions were submitted by locals, the final name was chosen by a panel of young people from Ynys Môn, chaired by Ynys Môn MP Llinos Medi and Secretary of State for Wales, Jo Stevens.
The panel was invited to select a name which captures both the heritage of the area and the opportunity ahead, with their involvement underlining the importance of ensuring the benefits of new nuclear at Wylfa are felt not just today, but by generations of islanders to come.
The name was chosen because it honours the specific identity, resilience, and unique character of the island’s people, placing the local community directly at the heart of the project’s identity. The name is derived from the old name for the region’s dialect, Gwyndodeg.
Chief Executive of GBE-N, Simon Roddy, said
“This is a proud moment for the project and for the new power station we are building on Anglesey. Choosing a name is about far more than words on a page, it’s about identity, ambition, and the place Wylfa will have on the island for the next century.
“I am delighted that young people from Ynys Môn have played such a central role in this decision. Their involvement reflects exactly why this matters because this project is about creating long-term opportunities, supporting skilled jobs, and helping to secure a clean, reliable source of power for the future. They have a real stake in the future it will help build.”
Secretary of State for Wales Jo Stevens added
“The UK Government is proud to be bringing nuclear back to Ynys Môn. Today we’ve reached another key milestone, with young people from Ynys Môn helping to choose the name of the new power station. After years of delays from previous governments, we are delivering on our promise with an investment of over £2.5 billion into the site.
“It is fitting that the name was chosen with the help of young people from the island. The benefit this brings to Ynys Môn will be felt for generations to come. Thousands of new jobs, a supercharged North Wales economy, and a key role in the future of the UK’s energy independence. That’s the future young people in Ynys Môn, and across Wales, deserve.”
Llinos Medi, MP for Ynys Môn, said
“This is a momentous day for Ynys Môn, I’m thankful for all the names that were submitted, and the explanations that came with them. The young people who took part in the panel today did a fantastic job, and took the responsibility seriously and with humility.
“We have a name for this project that Ynys Môn can truly call its own.”
Nuclear Minister Lord Vallance added
“For more than 40 years, workers at Wylfa played a huge part in powering Britain with nuclear energy generated in North Wales.
“It is only right that the community at the forefront of Britain’s golden age of nuclear puts their stamp on the small modular reactors that will generate power for millions of homes for decades.”
About GBE‑N
Great British Energy – Nuclear (GBE-N) is the government delivery body dedicated to supporting the development and deployment of new nuclear technologies in the UK. As an arm’s length body of the Department for Energy Security and Net Zero, GBE-N helps ensure long term energy security, supports net zero targets and promotes investment and innovation across the nuclear sector.
For further information please contact Ieuan Williams, Head of Communications, GBE-N ieuan.williams@greatbritishnuclear.uk.
Y gymuned leol yn enwi gorsaf bŵer newydd Wylfa
Heddiw, cyhoeddodd Great British Energy – Nuclear (GBE-N) mai enw’r orsaf bŵer niwclear newydd ger safle Wylfa yw Gorsaf Bŵer Gwyndod.
Gyda channoedd o awgrymiadau wedi’u cyflwyno gan bobl leol, dewiswyd yr enw terfynol gan banel o bobl ifanc o Ynys Môn, wedi’i chadeirio gan AS Ynys Môn, Llinos Medi, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.
Gwahoddwyd y panel i ddewis enw sy’n cyfleu treftadaeth yr ardal a’r cyfle sydd i ddod, a thrwy eu cynnwys rydym yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod buddion niwclear newydd yn Wylfa yn elwa trigolion yr ynys heddiw ac am genedlaethau i ddod.
Dewiswyd yr enw oherwydd ei fod yn anrhydeddu hunaniaeth, gwytnwch, a chymeriad unigryw pobl yr ynys, gan osod y gymuned leol wrth galon hunaniaeth y cyfleuster. Daw’r enw o’r term hynafol am dafodiaith yr ardal, Gwyndodeg.
Dywedodd Prif Weithredwr GBE-N, Simon Roddy
“Dyma destun balchder i’r prosiect ac ar gyfer yr orsaf bŵer newydd yr ydym yn ei hadeiladu ar Ynys Môn. Mae dewis enw yn golygu llawer mwy na geiriau ar dudalen, mae’n ymwneud â hunaniaeth, uchelgais, a safle Wylfa ar yr ynys am y ganrif sydd i ddod.
“Rydw i’n hynod falch bod pobl ifanc Ynys Môn wedi chwarae rôl mor ganolog yn y penderfyniad hwn. Mae eu cyfraniad yn adlewyrchu yn union pam mae hyn mor bwysig mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd hirdymor, cefnogi swyddi medrus, a helpu i sicrhau ffynhonnell lân a dibynadwy o bŵer ar gyfer y dyfodol. Nhw fydd yn elwa o’r dyfodol y bydd hyn yn ei greu.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens
“Mae Llywodraeth y DU yn falch o ddod â niwclear yn ôl i Ynys Môn. Heddiw rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall, gyda phobl ifanc o Ynys Môn yn helpu i ddewis enw’r orsaf bŵer newydd. Ar ôl blynyddoedd o oedi gan lywodraethau blaenorol, rydym yn cyflawni ein haddewid gyda buddsoddiad o dros £2.5 biliwn i’r safle.
“Mae’n addas bod yr enw wedi’i ddewis gyda chymorth pobl ifanc o’r ynys. Bydd y buddion y mae hyn yn ei gynnig i Ynys Môn i’w deimlo am genedlaethau i ddod. Miloedd o swyddi newydd, economi hynod gadarn yng Ngogledd Cymru, a rôl allweddol yn nyfodol annibyniaeth ynni y DU. Dyna’r dyfodol mae pobl ifanc Ynys Môn, a ledled Cymru, yn ei haeddu.”
Dywedodd Llinos Medi, AS Ynys Môn
“Mae hwn yn ddiwrnod arbennig ar gyfer Ynys Môn. Rydw i’n ddiolchgar am yr holl enwau a gafodd eu cyflwyno, a’r esboniadau a ddaeth law yn llaw â nhw. Mae’r bobl ifanc a gymerodd ran ar y panel heddiw wedi gwneud yn arbennig o dda, ac wedi deall difrifoldeb ac arwyddocâd y dasg wrth law.
“Mae gennym ni enw ar gyfer y prosiect hwn sydd wirioneddol yn eiddo Ynys Môn.”
Ychwanegodd y Gweinidog Niwclear yr Arglwydd Vallance
“Am dros 40 mlynedd, bu gweithwyr Wylfa yn rhan enfawr o bweru Prydain gydag ynni niwclear wedi’i gynhyrchu yng Ngogledd Cymru.
“Mae’n addas bod y gymuned sydd wrth wraidd oes euraidd niwclear Prydain yn gosod eu stamp eu hunain ar yr adweithyddion modiwlar bach a fydd yn cynhyrchu pŵer ar gyfer miliynau o gartrefi am ddegawdau.”
Cefndir GBE‑N
Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yw’r corff cyflawni llywodraethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni technolegau niwclear newydd yn y DU. Yn gorff hyd braich yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, mae GBE-N yn helpu i sicrhau sicrwydd ynni hirdymor, yn cefnogi targedau sero net ac yn hyrwyddo buddsoddiad ac arloesedd ar draws y sector niwclear.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ieuan Williams, Pennaeth Cyfathrebu, GBE-N ieuan.williams@greatbritishnuclear.uk.

