UK TimesUK Times
  • Home
  • News
  • TV & Showbiz
  • Money
  • Health
  • Science
  • Sports
  • Travel
  • More
    • Web Stories
    • Trending
    • Press Release
What's Hot

Trump likens DC to ‘worst places on Earth’ as military takes over nation’s capital: ‘Wild youth, maniacs and homeless’ – UK Times

11 August 2025

M11 southbound between J10 and J9 | Southbound | Vehicle Fire

11 August 2025

Collective action is vital to secure the safety of our seas for future generations UK statement at the UN Security Council

11 August 2025
Facebook X (Twitter) Instagram
Facebook X (Twitter) Instagram
UK TimesUK Times
Subscribe
  • Home
  • News
  • TV & Showbiz
  • Money
  • Health
  • Science
  • Sports
  • Travel
  • More
    • Web Stories
    • Trending
    • Press Release
UK TimesUK Times
Home » Rhybudd brys i berchnogion anifeiliaid anwes gan fod cemegau gwenwynig wedi’u canfod mewn triniaethau chwain ffug
Money

Rhybudd brys i berchnogion anifeiliaid anwes gan fod cemegau gwenwynig wedi’u canfod mewn triniaethau chwain ffug

By uk-times.com11 August 2025No Comments11 Mins Read
Facebook Twitter LinkedIn Telegram Pinterest Tumblr Reddit WhatsApp Email
Share
Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email

Y prif ddatblygiadau yw

  • rhybudd brys gan y llywodraeth wedi’i gyhoeddi ar ôl i bryfladdwr gwenwynig gael ei ddarganfod mewn triniaethau chwain ffug – roedd angen llawdriniaeth frys ar un gath ar ôl gwenwyno difrifol
  • Mae meddyginiaethau ffug i anifeiliaid anwes yn brin o gynhwysion hanfodol tra’u bod yn cynnwys cemegau peryglus sy’n sbarduno chwydu, trawiadau a marwolaeth bosibl
  • mae arwyddion rhybudd yn cynnwys deunydd pecynnu gwael, gwallau sillafu, arogleuon anarferol a phrisiau amheus o isel
  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod tri chwarter o ddefnyddwyr yn credu’n anghywir bod nwyddau ffug o ansawdd tebyg i gynhyrchion dilys
  • Dylai perchnogion anifeiliaid anwes brynu o ffynonellau dibynadwy yn unig ac adrodd am gynhyrchion amheus ar unwaith

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) a’r Gyfarwyddiaeth Meddygaeth Filfeddygol (VMD) yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i fod yn ofalus wrth brynu meddyginiaethau cyffredin, gan gynnwys triniaethau cyffredin ar gyfer chwain a dilyngyrwyr. 
Fe ddaw’r rhybudd ar ôl i olion plaladdwyr gwenwynig gael eu canfod mewn triniaeth chwain ffug a achosodd i gath anwes fynd yn sâl iawn, gan annog y perchennog i gael y cynnyrch wedi’i brofi. Fe wnaeth profion labordy gadarnhau presenoldeb Pirimiphos-methyl, pryfladdwr  peryglus sy’n wenwynig i gathod. 
Mae swyddogion yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i adnabod arwyddion cynhyrchion ffug, osgoi defnyddio eitemau amheus, a gwybod sut i adrodd am bryderon.  

Mae meddyginiaethau ffug i anifeiliaid yn fwriadol yn copïo ymddangosiad, deunydd pecynnu a brandio cynhyrchion milfeddygol dilys i dwyllo perchnogion anifeiliaid anwes. Fel pob cynnyrch ffug, maen nhw’n anghyfreithlon i’w gwerthu yn y DU.   

Fel arfer, nid oes gan y cynhyrchion ffug hyn y cynhwysion gweithredol priodol, sy’n eu gwneud yn aneffeithiol. Yn waeth byth, gallant hefyd gynnwys sylweddau niweidiol, gan achosi adweithiau difrifol gan gynnwys chwydu, cryndod cyhyrau, anawsterau anadlu, trawiadau ac o bosibl marwolaeth.

Gall perchnogion anifeiliaid anwes sy’n chwilio am fargeinion, neu bryniant cyflym ar-lein brynu’r cynhyrchion ffug peryglus hyn heb yn wybod iddynt.  
Mae’r VMD a’r IPO yn annog perchnogion i wirio am arwyddion rhybudd gan gynnwys deunydd pecynnu gwael, gwallau sillafu, gwybodaeth sydd ar goll, ac arogleuon anarferol. 

Y llynedd yn unig, cyhoeddodd y VMD 122 o hysbysiadau atafaelu am werthu meddyginiaethau ac atchwanegiadau ar gyfer anifeiliaid heb awdurdod, gan atal oddeutu 18,000 o eitemau anghyfreithlon rhag cyrraedd defnyddwyr. 

Ar ôl prynu rhywbeth a oedd yn ymddangos fel triniaeth chwain FRONTLINE ® ddilys ar-lein ar gyfer ei gath, Smokey, roedd Alan Wall o Preston yn ofidus iawn pan aeth Smokey yn sâl iawn. Roedd y cyflwr mor ddifrifol fel bod angen llawdriniaeth goluddol frys ar Smokey i oroesi. Dilynwyd hyn gan arhosiad wythnos o hyd yn y feddygfa filfeddygol a biliau sylweddol i gefnogi ei adferiad.

Dywedodd Alan Wall

Mae Smokey yn fwy nag anifail anwes yn unig, mae’n aelod o’n teulu. Pan aeth yn sâl ar ôl defnyddio’r hyn yr oeddem yn credu oedd triniaeth chwain go iawn, roedden ni’n ofnus iawn. Roedd ei wylio’n dioddef, heb wybod a fyddai’n dod drosto, yn dorcalonnus. Mae wedi cael effaith emosiynol enfawr ar bob un ohonom. Heb gefnogaeth ein milfeddygon a’r llawdriniaeth helaeth a gyflawnwyd ganddyn nhw, fe wyddom na fyddai Smokey gyda ni heddiw. Rydym am rybuddio perchnogion anifeiliaid anwes eraill am y cynhyrchion ffug hyn fel nad oes rhaid i neb arall ddioddef yr hyn rydym ni wedi bod drwyddo.

Delweddau o Smokey y gath – yn derbyn triniaeth, a phan oedd yn iachach

Mae Llawfeddyg Milfeddygol ac Asesydd Effeithiolrwydd y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, Dr Heilin-Anne Leonard-Pugh, yn egluro

Mae pirimifos-methyl yn wenwynig i gathod. Gall dod i gysylltiad â’r pryfladdwr hwn atal corff y gath rhag chwalu sylwedd o’r enw asetylcholin, gan arwain at or-ysgogi system nerfol y gath. Gall hyn achosi symptomau megis chwydu, cerddediad anghydlynol, cryndod cyhyrau, gwendid, parlys, sensitifrwydd uwch i gyffwrdd, anhawster anadlu, aflonyddwch, anymataliaeth wrinol, curiad calon isel a thrawiadau. Mewn rhai achosion, yn anffodus gall hyd yn oed farwolaeth ddigwydd. Os ydych chi’n amau ​​bod eich anifail anwes wedi cael ei amlygu i feddyginiaeth ffug, ceisiwch gyngor milfeddygol ar unwaith.  

Fe wnaeth Sue Horseman o Fryste hefyd brynu’r hyn a oedd yn ymddangos fel triniaeth chwain FRONTLINE® ar-lein ar gyfer ei chath, ond daeth yn amheus yn gyflym nad oedd y cynnyrch yn ddilys.  
Fe wnaeth Sue esbonio bod y cynnyrch yn anodd ei agor a bod ganddo arogl amlwg o wirod gwyn a pharaffin, ond nad oes gan y driniaeth chwain ddilys unrhyw arogl.  Pan wnaeth hi adrodd hyn wrth Safonau Masnach, cadarnhaodd arbenigwyr fod y driniaeth yn ffug. 

Er bod y platfform ar-lein wedi tynnu’r gwerthwr allan, roeddent eisoes wedi llwyddo i werthu 211 swp o feddyginiaethau ac atchwanegiadau anifeiliaid anwes yr amheuir eu bod yn ffug, gan gynnwys Triniaeth Chwain a Throgod ffug FRONTLINE a Chodenni Probiotig PRO PLAN FortiFlora ar gyfer cŵn a chathod. Mae ymchwil newydd i nwyddau ffug (Ton 4) yn dangos bod nwyddau ffug o bob math yn cael eu prynu’n aml trwy wefannau e-fasnach byd-eang. Mae’r ffigurau hefyd yn dangos, yn 2024, fod bron i un o bob pump (17%) o ddefnyddwyr wedi prynu nwyddau heb yn wybod iddynt y darganfuwyd yn ddiweddarach eu bod yn ffug, gyda 60% o brynwyr hefyd yn dweud bod ‘rhwyddineb prynu’ wedi dylanwadu ar eu penderfyniad.  Mae arbed arian yn gymhelliant cryf dros brynu nwyddau ffug, gyda thua thri chwarter (72%) o brynwyr yn dweud bod pris yn ffactor pwysig yn eu penderfyniad. Mae’n destun pryder bod tua thri chwarter (72%) yn credu’n anghywir y byddai’r cynnyrch o ansawdd tebyg i’r eitem wirioneddol.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Gorfodi’r IPO, Helen Barnham

Rydym yn genedl sy’n caru anifeiliaid, ac mae troseddwyr sy’n delio â nwyddau ffug yn targedu perchnogion anifeiliaid anwes gan ddiystyru lles yr anifail yn llwyr.  Gall hyn gael rhai canlyniadau gofidus, gan y gallant gynnwys cemegau gwenwynig sy’n niweidiol i’n hanifeiliaid anwes. Rydym yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i fod yn wyliadwrus wrth brynu unrhyw fath o driniaeth anifeiliaid, a bod yn ofalus o unrhyw gynigion sy’n ‘edrych yn rhy dda i fod yn wir’.   

Mae ffugio ymhell o fod yn drosedd heb ddioddefwr ac mae’r darganfyddiad diweddaraf hwn yn cadarnhau hyn. Os ydych chi’n amau ​​bod unrhyw nwyddau a gynigir i’w gwerthu yn ffug, dylech chi bob amser riportio hyn i’ch Safonau Masnach lleol neu Crimestoppers Online.

Dywedodd Caroline Allen, Prif Swyddog Milfeddygol yr RSPCA

Rydym yn bryderus iawn am driniaethau milfeddygol ffug sydd ar werth a all fod yn wenwynig iawn i anifeiliaid anwes a byddem bob amser yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i geisio cyngor milfeddygol proffesiynol os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch iechyd.  

Rydym yn sylweddoli y gall pwysau ariannol arwain rhai perchnogion i chwilio am driniaethau rhatach ar-lein ond gallent fod yn rhoi eu hanifeiliaid anwes annwyl mewn perygl difrifol heb yn wybod iddynt drwy brynu’r nwyddau ffug hyn yn anfwriadol a byddem yn eu hannog i ddilyn y cyngor hwn gan y llywodraeth.

Dywedodd Nina Downing, Nyrs Filfeddygol o PDSA, elusen filfeddygol ac awdurdod blaenllaw ar iechyd anifeiliaid anwes yn y DU

Gall meddyginiaethau milfeddygol ffug fod yn fygythiad difrifol i iechyd a lles ein hanifeiliaid anwes. Er bod meddyginiaethau cyfreithlon yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein hanifeiliaid anwes yn iach, gall cynhyrchion ffug achosi niwed difrifol neu hyd yn oed fod yn angheuol. Gall y meddyginiaethau ffug hyn gynnwys cynhwysion anghywir neu sylweddau peryglus a all wneud anifeiliaid anwes yn sâl iawn – gan arwain at symptomau fel gwingo, chwyddo, anawsterau anadlu, chwydu, dolur rhydd, llewygu, coma a hyd yn oed marwolaeth.

Rydym bob amser yn argymell eich bod ond yn rhoi meddyginiaeth i’ch anifail anwes sydd wedi’i rhagnodi gan eich milfeddyg. Wrth gyflawni presgripsiwn ar-lein, ceisiwch ei gael gan gwmnïau ag enw da sydd ar y Gofrestr o fanwerthwyr ar-lein, a ddygir atoch gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Os ydych chi’n amau ​​bod eich anifail anwes yn ymateb yn wael i unrhyw feddyginiaeth, cysylltwch â’ch milfeddyg ar unwaith.

Wrth archwilio’r driniaeth chwain ffug FRONTLINE®, nododd arbenigwyr o Brifysgol Caerfaddon ddiffygion amlwg yn y deunydd pecynnu hefyd. Yn fwyaf nodedig, fe wnaeth y label ddefnyddio ‘GATTI’ (Eidaleg am gathod) yn lle’r Saesneg ‘CAT’, ochr yn ochr â nifer o wallau sillafu – dangosyddion cyffredin o gynhyrchion ffug.

Delwedd Deunydd pecynnu sy’n cynnwys camgymeriadau sillafu ac ieithoedd cymysg

Dylai perchnogion anifeiliaid anwes wirio’r deunydd pecynnu a bod yn ofalus bob amser o werthwyr trydydd parti wrth siopa ar safleoedd e-fasnach am unrhyw fath o feddyginiaeth anifeiliaid anwes. 

Mae’r IPO a’r VMD yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr i helpu i adnabod meddyginiaethau ffug i anifeiliaid, a beth i’w wneud os ydyn nhw’n credu eu bod nhw wedi’u prynu neu wedi’u gweld yn cael eu cynnig i’w gwerthu.

Sut i adnabod meddyginiaethau ffug i anifeiliaid ar-lein

  1. Arwyddion rhybudd am feddyginiaethau ffug. Chwiliwch am
  • deunydd pecynnu o ansawdd gwael neu wedi’i ddifrodi
  • gwallau sillafu neu ramadeg
  • taflenni neu ddyddiadau dod i ben sydd ar goll
  • cyfarwyddiadau heb eu darparu yn Saesneg
  • arogl, lliw neu wead amheus
  • tabledi, capsiwlau, ffiolau neu bipetiau o ansawdd gwael – ymddangosiad wedi’u gwneud gartref

Byddwch yn ofalus o unrhyw fanwerthwr sy’n gwerthu cynhyrchion presgripsiwn yn unig heb ofyn am eich presgripsiwn. Mae hyn yn anghyfreithlon. 

Rhaid i bob gwerthwr ar-lein sy’n gwerthu meddyginiaethau i anifeiliaid ar bresgripsiwn yn unig fod wedi cofrestru gyda’r VMD. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch wirio manwerthwyr ar Gofrestr Manwerthwyr Ar-lein y VMD.

  1. Siopwch yn ddiogel ar-lein bob amser. Byddwch yn ofalus o
  • nwyddau wedi’u disgowntio’n fawr a gwerthiannau fflach. Cwestiynwch y pris os yw’n llawer rhatach nag yn rhywle arall. Boed yn prynu ar-lein neu yn bersonol, meddyliwch bob amser am y pris
  • gwerthwr yn gofyn am wybodaeth sensitif neu’n gofyn am daliad drwy drosglwyddiad banc
  • gwefannau a phroffiliau cyfryngau cymdeithasol ffug. Gall y rhain gynnwys enwau brand gwreiddiol – cadarnhewch fod y wefan yn ddilys a gwiriwch fanylion ac adolygiadau’r gwerthwr cyn prynu
  • unrhyw fargen neu gynnig sy’n edrych yn ‘rhy dda i fod yn wir’

Beth gallwch chi ei wneud

Os ydych chi wedi cael eich effeithio’n bersonol gan achos o wenwyno, dylech chi roi gwybod drwy holiadur y Gwasanaeth Gwybodaeth am Wenwynau Milfeddygol (VPIS) 

Os gwelwch chi’r nwyddau hyn yn cael eu cynnig i’w gwerthu, boed ar wefan, post cyfryngau cymdeithasol neu ar y stryd fawr, cysylltwch â’ch Safonau Masnach lleol neu Crimestoppers ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. 

Os gwelwch chi’r nwyddau hyn yn cael eu cynnig i’w gwerthu, boed ar wefan, post cyfryngau cymdeithasol neu ar y stryd fawr, cysylltwch â Thîm Gorfodi’r VMD. (Gallwch wneud hynny’n ddienw os yw’n well gennych)

Gwybodaeth Ychwanegol

  1. Rhaid i bob meddyginiaeth filfeddygol a werthir yn y DU gael ei hawdurdodi. Os yw’r brand yn edrych yn anghyfarwydd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i awdurdodi cyn prynu. I wybod a yw’r feddyginiaeth wedi’i chymeradwyo yn y DU, dylech chwilio am labelu Saesneg a rhif Awdurdodiad Marchnata dilys (e.e. Vm 12345/4001). Gallwch wirio a yw’r feddyginiaeth rydych chi’n ei phrynu wedi’i hawdurdodi yn y DU drwy chwilioCronfa Ddata Gwybodaeth Cynnyrch y VMD

    Mae defnyddio meddyginiaeth heb awdurdod yn peri risg ddifrifol i les eich anifail anwes. Nid yw’r meddyginiaethau hyn wedi cael eu hasesu gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ac ni ellir gwarantu eu diogelwch, eu hansawdd na’u heffeithiolrwydd.

  2. Nid oes angen i fanwerthwyr ar-lein meddyginiaethau milfeddygol risg isel, gwerthiant cyffredinol y gall unrhyw un eu gwerthu heb bresgripsiwn (a elwir yn feddyginiaethau AVM-GSL) gofrestru. Wrth brynu’r meddyginiaethau hyn, prynwch o ffynhonnell ddibynadwy bob amser. 
  3. Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yw corff swyddogol llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hawliau eiddo deallusol (IP) gan gynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfraint. Mae IPO yn asiantaeth weithredol, a noddir gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.  
  4. Mae’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) yn asiantaeth weithredol o’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac Awdurdod Cymwys y DU ar gyfer rheoleiddio meddyginiaethau milfeddygol. Mae’r VMD yn amddiffyn iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd ac yn hyrwyddo lles anifeiliaid drwy sicrhau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol.  
  5. Mae’r IPO yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddeall ymddygiad defnyddwyr mewn perthynas â phrynu nwyddau ffug ac agweddau tuag atynt. Mae’r adroddiad Ymchwil Nwyddau Ffug diweddaraf (a gyhoeddwyd ddydd Mawrth 17 Mai 2025) yn dangos y prif gymhellion i’r rhai sy’n prynu nwyddau ffug 
  • tebyg/yr un ansawdd – 72.3%
  • eisiau lleihau gwariant/alldaliadau – 72%
  • roedd y cynnyrch go iawn y tu hwnt i’ch cyllideb/ystod prisiau – 70.9%
  • roedd y cynnyrch ffug yn rhatach – 72%
  • clywed gan deulu neu ffrindiau fod y cynhyrchion ‘ffug’ yn dda – 64.8%
  • dyluniad tebyg/yr un fath – 64.6%
  • gallu prynu cynhyrchion ‘twyllodrus’ neu ffug yn hawdd – 60.5%
Share. Facebook Twitter Pinterest LinkedIn Tumblr Telegram Email

Related News

Collective action is vital to secure the safety of our seas for future generations UK statement at the UN Security Council

11 August 2025

Certification Officer Announcements – GOV.UK

11 August 2025

Export Bar placed on Historic British Maritime Chart Collection

11 August 2025

Taskforce to tackle regulatory barriers holding back nuclear

11 August 2025

Job boost for newly qualified nurses and midwives

11 August 2025

More foreign criminals to be deported before appeals heard

10 August 2025
Top News

Trump likens DC to ‘worst places on Earth’ as military takes over nation’s capital: ‘Wild youth, maniacs and homeless’ – UK Times

11 August 2025

M11 southbound between J10 and J9 | Southbound | Vehicle Fire

11 August 2025

Collective action is vital to secure the safety of our seas for future generations UK statement at the UN Security Council

11 August 2025

Subscribe to Updates

Get the latest UK news and updates directly to your inbox.

© 2025 UK Times. All Rights Reserved.
  • Privacy Policy
  • Terms of use
  • Advertise
  • Contact Us

Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.

Go to mobile version